About Me
Christopher T Roberts is an artist who has been living and working in Wales for all of his adult life. He studied in Coleg Meani Bangor foundation course under the established Welsh painters Peter Prendergast and Iwan Gwynn Parry in the 1990s, before moving on to Cardiff where he completed his degree in Fine Art in the year 2000. He has exhibited across Wales, Chester and Liverpool.
Christopher’s aim has always been to create paintings about both life and painting. He has never been interested in creating an image that is 100% accurate in its realism, neither has he been interested in creating something that is a pure abstract composition with no connection to the real world. He is interested in making paintings that speak about being paintings whilst at the same time communicate about nature, relationships and the human condition. He strives to make paintings that are bold, interesting, energetic, self-aware, fun, reflective, life affirming whilst also highlighting fragility, anxiety and the bleak nature of existence. Paintings that exist as paradox.
Cymraeg
Mae Christopher T Roberts yn artist sydd wedi bod yn byw ac yn gweithio yng Nghymru ar hyd ei oes fel oedolyn. Astudiodd gwrs sylfaen yng Ngholeg Menai Bangor dan arweiniad y peintwyr Cymreig profiadol Peter Prendergast ac Iwan Gwynn Parry yn y 1990au, cyn symud i Gaerdydd lle cwblhaodd ei radd mewn Celfyddyd Gain yn 2000. Mae wedi arddangos ei waith ledled Cymru, Caer a Lerpwl.
Nod Christopher bob amser yw creu peintiadau am fywyd a pheintio. Nid yw erioed wedi bod â diddordeb mewn creu delwedd sy’n hollol gywir o ran realaeth, ac nid yw chwaith wedi bod â diddordeb mewn creu rhywbeth sy’n gyfansoddiad cwbl haniaethol heb unrhyw gysylltiad â‘r byd go iawn. Mae ganddo ddiddordeb mewn creu peintiadau sy’n siarad am fod yn beintiadau gan gyfathrebu am natur, perthnasoedd a’r cyflwr dynol ar yr un pryd. Mae’n ymdrechu i wneud peintiadau sy’n feiddgar, diddorol, egnïol, hunanymwybodol, hwyliog, myfyriol ac sy’n cadarnhau bywyd gan amlygu breuder, ofn a natur dywyll bodolaeth ar yr un pryd. Peintiadau sy’n bodoli fel paradocs.